https://valuationoffice.blog.gov.uk/2026/03/03/why-your-propertys-council-tax-band-could-increase/

Why your property's Council Tax band could increase

Posted by: , Posted on: - Categories: Council Tax

[English] - [Cymraeg]

The Valuation Office Agency (VOA) bands every home in England and Wales for Council Tax. Your property’s band is used by your local council to determine how much Council Tax you pay.

Your Council Tax band is based on the open market value of your property at a fixed point in time. In England, this is 1 April 1991 and in Wales, this is 1 April 2003.

Council Tax bands cover a range of property values, so homes of different values may be in the same Council Tax band. This means that an increase in your property’s value won’t necessarily mean that your band will go up.

There are times when a property may be moved into a higher Council Tax band. In this blog, we’ll look at the four main reasons why this could happen.

Council Tax band challenges

One of the reasons a Council Tax band may go up is due to someone challenging their band.

When you submit a challenge we review all relevant evidence, such as sales data, property details and the bands of other similar properties.

If the evidence shows that the value of your property is higher than originally decided, your property may be moved into a higher band. 

As a consequence of a neighbour's challenge

If a Council Tax band changes as a result of a challenge, we may review the bands of nearby properties. By law it’s our job to maintain an accurate Council Tax list, so we must do this to check other bands are correct.

This means that if your neighbour’s property has similar characteristics to yours and their band goes up, yours could to.

After major renovation

If a property cannot be lived in, typically due to major renovation or because it's in disrepair or derelict, we may delete it from the Council Tax list. Read our deletions blog to find out more.

Once the relevant works have been completed and the property can be lived in again, we will reassess the band. During our reassessment we will consider all changes that have been made.

If the property’s value has increased because of the work, this can lead to the its Council Tax band increasing too. It can also increase if the renovation or repairs mean your property is now similar to nearby properties in a higher band.

Following improvements

The VOA follows strict laws around bandings for Council Tax.

For example, legally, we cannot change the Council Tax band of a property that has been improved until it has either been sold, or there is a general revaluation of all domestic properties. This helps ensure homeowners are not penalised for improving or maintaining their home.

Instead we give the property what’s known as an improvement indicator, which prompts us to review the band following a sale.

This means that if you have recently bought an improved or renovated property, we may change the Council Tax band.

When we review the band, we consider all changes that have been made. If we increase the band following our review, the new band will apply from the date we notify your local council.

Read our improvement indicators blog to learn more about the process.

Backdated bills

Although there are some situations set out in legislation where we would backdate a change to the Council Tax list, this won’t happen if we are increasing the band.

If we increase your band the change only takes effect when we notify your local council, so you won’t receive a backdated bill

[English] - [Cymraeg]

Pam y gallai band Treth Gyngor eich eiddo gynyddu

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn gyfrifol am roi pob cartref yng Nghymru a Lloegr i mewn i fand Treth Gyngor. Mae band eich eiddo wedyn yn cael ei ddefnyddio gan eich cyngor lleol i bennu faint o Dreth Gyngor rydych yn ei dalu.

Mae eich band Treth Gyngor yn seiliedig ar werth marchnad agored eich cartref ar ddyddiad penodol yn y gorffennol. Y dyddiad hwn yng Nghymru yw 1 Ebrill 2003, ac yn Lloegr y dyddiad yw 1 Ebrill 1991.

Mae bandiau Treth Gyngor yn cwmpasu ystod o werthoedd eiddo, felly gall cartrefi o werthoedd gwahanol fod yn yr un band Treth Gyngor. Mae hyn yn golygu na fydd cynnydd yng ngwerth eich eiddo o reidrwydd yn arwain at gynnydd yn eich band.

Mae yna adegau pan all eiddo gael ei symud i fand Treth Gyngor uwch. Yn y blog hwn, byddwn yn edrych ar y pedwar prif reswm pam y gallai hyn ddigwydd.

Herio band Treth Gyngor

Un o’r rhesymau y gall band Treth Gyngor gynyddu yw pan fydd rhywun yn herio eu band.

Pan fyddwch yn cyflwyno her, rydym yn adolygu’r holl dystiolaeth berthnasol, megis data gwerthiannau, manylion yr eiddo a bandiau eiddo tebyg eraill.

Os yw’r dystiolaeth yn dangos bod gwerth yr eiddo yn uwch nag y benderfynwyd yn wreiddiol, o ganlyniad i nodweddion yr eiddo a’i leoliad, gall eich eiddo gael ei symud i fand uwch.

O ganlyniad i her gan gymydog

Os bydd band Treth Gyngor yn newid o ganlyniad i her, gallwn adolygu bandiau eiddo cyfagos. Yn ôl y gyfraith, ein gwaith ni yw cynnal rhestr Dreth Gyngor gywir, felly mae’n rhaid i ni wneud hyn i wirio bod bandiau eraill yn gywir.

Mae hyn yn golygu os oes gan eiddo eich cymydog nodweddion tebyg i’ch eiddo chi ac os bydd eu band yn cynyddu, gall eich un chi gynyddu hefyd.

Ar ôl gwaith adnewyddu neu atgyweirio sylweddol

Os ydy eiddo yn cael ei adnewyddu’n sylweddol, neu os ydy mewn cyflwr gwael neu’n adfail, gall yr eiddo gael ei dynnu, neu ei ‘ddileu’, o restr y Dreth Gyngor os na ellir byw ynddo, fel arfer oherwydd ei fod yn cael. Darllenwch ein blog am ddileu eiddo i gael rhagor o wybodaeth.

Unwaith y bydd y gwaith perthnasol wedi’i gwblhau a bod modd byw yn yr eiddo eto, byddwn yn ailasesu’r band. Byddwn yn ystyried yr holl adnewyddiadau a newidiadau sydd wedi’u gwneud.

Os yw gwerth yr eiddo wedi cynyddu o ganlyniad i’r gwaith, gall hyn arwain at gynnydd yn y band Treth Gyngor hefyd. Gall y band gynyddu hefyd os yw’r gwaith adnewyddu ac atgyweirio yn golygu bod eich eiddo bellach yn debyg i eiddo cyfagos mewn band uwch.

Yn dilyn gwelliannau

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn dilyn deddfau llym ynghylch bandio Treth Gyngor.

Er enghraifft, yn ôl y gyfraith, ni allwn newid band Treth Gyngor eiddo sydd wedi’i wella hyd nes y caiff ei werthu neu nes bydd ailbrisiad cyffredinol o bob eiddo domestig. Mae hyn yn helpu i sicrhau nad yw perchnogion tai yn cael eu cosbi am wella neu chynnal eu cartref.

Yn lle hynny, rydym yn rhoi’r hyn a elwir yn ddangosydd gwelliant i’r eiddo, sy’n ein hysgogi i adolygu’r band unwaith y bydd yr eiddo wedi’i werthu.

Mae hyn yn golygu os ydych wedi prynu eiddo sydd wedi’i adnewyddu neu ei adnewyddu’n ddiweddar, gallwn newid y band Treth Gyngor.

Pan fyddwn yn adolygu’r band, byddwn yn ystyried yr holl newidiadau sydd wedi’u gwneud. Os byddwn yn cynyddu’r band yn dilyn ein hadolygiad, bydd y band newydd yn berthnasol o’r dyddiad y byddwn yn hysbysu eich cyngor lleol. Darllenwch ein blog am ddangosyddion gwelliant i ddysgu mwy am y broses.

Biliau wedi’u hôl-ddyddio

Er bod rhai sefyllfaoedd wedi’u nodi mewn deddfwriaeth lle byddem yn ôl-ddyddio newid i’r rhestr Dreth Gyngor, ni fydd hyn yn digwydd os ydym yn cynyddu’r band. Os byddwn yn cynyddu eich band, dim ond pan fyddwn yn hysbysu eich cyngor lleol y daw’r newid i rym, felly ni fyddwch yn derbyn bil wedi’i ôl-ddyddio.

Sharing and comments

Leave a comment

We only ask for your email address so we know you're a real person

By submitting a comment you understand it may be published on this public website. Please read our privacy notice to see how the GOV.UK blogging platform handles your information.