Skip to main content

https://valuationoffice.blog.gov.uk/2024/05/08/council-tax-renovations-and-repairs/

Council Tax: renovations and repairs

Posted by: , Posted on: - Categories: Council Tax

[English] - [Cymraeg]

Council Tax bands are based on the price a property could have sold for on a fixed date. This is 1 April 1991 in England and 1 April 2003 in Wales.

Every property that is habitable (capable of being lived in) or capable of being repaired is banded for Council Tax.

We can only delete a property’s Council Tax band in limited circumstances. This happens when the property is one of the following:

  • truly derelict
  • undergoing major renovation

In this blog, we explain what we class as major renovation, the evidence we need to delete the property’s band, and what happens once the band has been deleted.

Read our previous blog for more information about truly derelict properties.

What is major renovation?

For Council Tax purposes, major renovation is classed as significant redevelopment or reconstruction work affecting most of a property.

Works will be substantial, and of a much greater scale than typical repairs.

While works are ongoing, the property will not be capable of being lived in. If you are living in the property, or it is capable of being lived in, we will not be able to delete the band.

Examples of major renovation include:

  • structural alterations
  • stripping out of walls, floors, ceilings, fixtures and fittings
  • a repair scheme following fire or flood damage, affecting most of the property

We look at every request on a case-by-case basis, taking into account the extent of the works and whether they have actually started.

Property conversions

Property conversions, such as flats merged into one single property or one property converted into multiple flats, are classed as major renovations.

If part of the property can still be lived in while works are ongoing, it will be banded for Council Tax. We will then band each new unit once works are complete.

Normal repairs

We class normal repairs as the replacement or renewal of property features that have worn out over time. We would not usually delete a property’s Council Tax band for normal repairs, unless they formed part of a wider scheme of works.

Examples of normal repairs include:

  • kitchen or bathroom replacements
  • new windows or roof coverings
  • rewiring
  • any type of paintwork or redecoration
  • extensions – if the original property is capable of being lived in

Our decision is based on the extent of the works and how they affect the property as a whole, not how much the repairs will cost.

Evidence requirements

When you ask us to delete your property’s Council Tax band, we will ask you for evidence to help us make a decision.

For properties undergoing major renovation, this evidence could be:

  • a description of the planned scheme of works
  • details of any works started on the property and when they began
  • a copy of any surveys, architect’s plans or planning permissions if available
  • labelled and dated photographs of both inside and outside the property, showing its condition and where works have started

The amount of evidence you will have will depend on the size of the scheme, but it’s important you provide as much information as possible.

We will need to be satisfied that there is a scheme of works actually underway before we delete a band.

What happens next?

If we agree to delete your property’s Council Tax band, the effective date for deletion is the first day the works physically start. Obtaining planning permission does not mark the start of a scheme.

If we delete your band after the works have started, the deletion will be backdated.

Once the works have been completed, your property will be banded as new. If you have converted a single property into flats, each flat will be banded separately.

We will consider all improvements made to the property. This means your Council Tax band may go up. The effective date will be the date works were completed.

[English] - [Cymraeg]

Mae bandiau Treth Gyngor yn seiliedig ar y pris y gallai eiddo fod wedi gwerthu amdano ar ddyddiad penodol. 1 Ebrill 1991 yw hwn yn Lloegr a 1 Ebrill 2003 yng Nghymru.

Mae pob eiddo y gellir byw ynddo neu y gellir ei atgyweirio wedi'i fandio ar gyfer Treth Gyngor.

Dim ond o dan amgylchiadau cyfyngedig y gallwn ddileu band Treth Gyngor eiddo. Mae hyn yn digwydd pan fo'r eiddo yn un o'r canlynol:

  • yn wirioneddol adfeiliedig
  • yn cael ei adnewyddu'n sylweddol

Yn y blog hwn, rydyn ni'n esbonio'r hyn rydyn ni'n ei ystyried yn waith adnewyddu mawr, y dystiolaeth sydd ei hangen arnom i ddileu band yr eiddo, a beth sy'n digwydd ar ôl i'r band gael ei ddileu.

Darllenwch ein blog blaenorol am rhagor o wybodaeth am eiddo gwirioneddol adfeiliedig.

Beth yw gwaith adnewyddu mawr?

At ddibenion Treth Gyngor, caiff gwaith adnewyddu sylweddol ei ddiffinio fel gwaith ailddatblygu neu ailadeiladu sylweddol sy'n effeithio ar y rhan fwyaf o eiddo.

Bydd y gwaith yn sylweddol, ac ar raddfa lawer mwy na gwaith atgyweirio arferol.

Tra bod y gwaith yn mynd rhagddo, ni fydd modd byw yn yr eiddo. Os ydych yn byw yn yr eiddo, neu os oes modd byw ynddo, ni fyddwn yn gallu dileu'r band.

Mae enghreifftiau o waith adnewyddu mawr yn cynnwys:

  • newidiadau strwythurol
  • tynnu waliau, lloriau, nenfydau, gosodiadau a ffitiadau
  • cynllun atgyweirio yn dilyn difrod tân neu lifogydd, sy'n effeithio ar y rhan fwyaf o'r eiddo

Edrychwn ar bob cais fesul achos, gan ystyried maint y gwaith ac a yw wedi dechrau mewn gwirionedd.

Addasu eiddo

Mae addasiadau eiddo, megis fflatiau wedi'u huno yn un eiddo neu un eiddo wedi'i addasu yn fflatiau lluosog, yn cael eu dosbarthu fel adnewyddiadau mawr.

Os yw’n bosibl parhau i fyw yn rhan o'r eiddo tra bod y gwaith yn mynd rhagddo, bydd yn cael ei fandio ar gyfer Treth Gyngor. Yna byddwn yn bandio pob uned newydd unwaith y bydd y gwaith wedi'i gwblhau.

Atgyweiriadau arferol

Rydym yn dosbarthu atgyweiriadau arferol fel ailosod neu adnewyddu nodweddion eiddo sydd wedi treulio dros amser. Ni fyddem fel arfer yn dileu band Treth Gyngor eiddo ar gyfer atgyweiriadau arferol, oni bai eu bod yn rhan o gynllun gwaith ehangach.

Mae enghreifftiau o atgyweiriadau arferol yn cynnwys:

  • amnewid cegin neu ystafell ymolchi
  • ffenestri neu orchuddion to newydd
  • ailweirio
  • unrhyw fath o waith paent neu ailaddurno
  • estyniadau – os oes modd byw yn yr eiddo gwreiddiol

Mae ein penderfyniad yn seiliedig ar helaethrwydd y gwaith a sut y bydd hyn yn effeithio ar yr eiddo yn ei gyfanrwydd, nid faint fydd y gwaith atgyweirio yn ei gostio.

Gofynion o ran tystiolaeth

Pan fyddwch yn gofyn i ni ddileu band Treth Gyngor eich eiddo, byddwn yn gofyn i chi am dystiolaeth i’n helpu i wneud penderfyniad.

Ar gyfer eiddo sy’n cael ei adnewyddu’n sylweddol, gallai’r dystiolaeth hon fod fel a ganlyn:

  • disgrifiad o'r cynllun gwaith arfaethedig
  • manylion unrhyw waith a ddechreuwyd ar yr eiddo a phryd y dechreuodd
  • copi o unrhyw arolygon, cynlluniau pensaer neu ganiatâd cynllunio os ydynt ar gael
  • ffotograffau wedi'u labelu a'u dyddio o'r tu mewn a'r tu allan i'r eiddo, yn dangos ei gyflwr a lle mae'r gwaith wedi dechrau

Bydd faint o dystiolaeth fydd gennych yn dibynnu ar faint y cynllun, ond mae’n bwysig eich bod yn darparu cymaint o wybodaeth â phosibl.

Bydd angen inni fod yn fodlon bod cynllun gwaith ar y gweill mewn gwirionedd cyn inni ddileu band.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Os byddwn yn cytuno i ddileu band Treth Gyngor eich eiddo, y dyddiad dod i rym ar gyfer dileu yw’r diwrnod cyntaf y bydd y gwaith yn dechrau’n ffisegol. Nid yw cael caniatâd cynllunio yn nodi dechrau cynllun.

Os byddwn yn dileu eich band ar ôl i'r gwaith ddechrau, bydd y dileu yn cael ei ôl-ddyddio.

Unwaith y bydd y gwaith wedi'i gwblhau, bydd eich eiddo'n cael ei fandio fel un newydd. Os ydych wedi trosi un eiddo yn fflatiau, bydd pob fflat yn cael ei fandio ar wahân.

Byddwn yn ystyried yr holl welliannau a wneir i'r eiddo. Mae hyn yn golygu y gall eich band Treth Gyngor godi. Y dyddiad dod i rym fydd y dyddiad y cwblhawyd y gwaith.

We welcome your comments about this blog below but cannot discuss individual cases. Please do not share any personal information. We will not be able to publish any comments that include personal details.

Please direct all queries about individual cases to our contact form.

Sharing and comments

Share this page

Leave a comment

We only ask for your email address so we know you're a real person

By submitting a comment you understand it may be published on this public website. Please read our privacy notice to see how the GOV.UK blogging platform handles your information.