Skip to main content

https://valuationoffice.blog.gov.uk/2024/11/07/greater-transparency-in-valuation-information/

Greater transparency in valuation information 

Posted by: , Posted on: - Categories: Business Rates

[English] - [Cymraeg]

With the Valuation Office Agency’s (VOA) future approach to sharing valuation information announced, we explore what the changes will mean for our customers.   

Significant reforms to the business rates system are now underway. These will: 

  • modernise the business rates system and bring the administration of business rates more closely in line with other taxes  
  • deliver more regular revaluations 
  • change how the VOA and ratepayers work together.  

An important part of the reforms is increasing transparency – sharing more evidence with ratepayers to explain how we have calculated their rateable value. This, in turn, helps build trust in our valuations. 

These changes will happen in phases. We’ve already made improvements to our guidance for customers. 

The government’s Business Rates Review Final Report said that greater transparency would come after the introduction of the new duty on ratepayers to provide property information to the VOA.  

The new information duty on ratepayers is expected to be introduced after 1 April 2026. It will be tested with small numbers of customers in phases from that point so we can make sure the system works for all ratepayers.  

The duty will then be formally activated and mandated for everyone by 1 April 2029.  

It will make sure the information we disclose to ratepayers is more timely and complete.  

Changes to the Check, Challenge, Appeal system will also be introduced in April 2029. 

Listening to feedback 

It’s important that feedback from our customers and stakeholders informs any changes. 

We held a consultation last year and have done research with ratepayers and agents. This has given us a range of views on what information is helpful, and what may be more sensitive and not suitable to be disclosed. 

We know that some people want greater transparency. But this needs to be balanced with the concerns of others about the confidentiality of their data.  

Ratepayers also told us that they prefer simplified information and don’t want to be overwhelmed with details. 

Our phased approach 

From 2026, we’ll improve how we share existing information on a property’s valuation.  

For bulk properties, ratepayers registered with our Check, Challenge, Appeal system will be able to request a tailored package of information. This will make it easier for them to understand: 

  • how we’ve valued their property 
  • how it compares to similar properties.  

Much of this information is already available. But research has shown we need to improve how we present it. This is particularly the case with information about comparable properties, which helps ratepayers consider the fairness of their rating assessment. 

For properties valued using the receipts and expenditure or contractor’s basis methods, we’ll only share information about the ratepayer’s own property. We won’t include ‘comparable’ information or evidence, as this may be commercially or otherwise sensitive.  

Feedback has already told us ratepayers are likely to find these changes helpful.  

We also know that more information is needed to fully understand how we’ve arrived at a property’s rateable value.  

What we will share from 2029 

We’ll be providing more valuation evidence and information in the second phase of these changes, from publication of the draft 2029 rating lists. 

For properties valued using local rents, we’ll expand the information to include rental evidence we’ve relied on in our valuations.  

Having listened to your feedback, we also expect to provide more information about the type of transactions. For example, whether it is a: 

  • new letting 
  • lease renewal, or  
  • rent review.  

We’ll continue to explore with agents how best to provide information around the adjustments we make to rental evidence during our valuations.   

More to come 

Above I’ve set out the phased approach we’ll be taking to providing more valuation information, but really our work is only getting started. 

Further research is already underway. We’d like to learn more about what helps ratepayers understand their valuation and any rental evidence. And what extra information may help people better understand a property’s rateable value. 

We’re clear that we want to design and build the service working with ratepayers, agents and other stakeholders. That means we will listen to feedback and take it on board where we can. 

These changes will also mean the UK is among those countries who provide a higher level of transparency in valuation data. 

We welcome your comments about this blog below but cannot discuss individual cases. Please do not share any personal information. We will not be able to publish any comments that include personal details.

Please direct all queries about individual cases to our contact form.

[English] - [Cymraeg]

Mwy o dryloywder mewn gwybodaeth brisio

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (y VOA) wedi cyhoeddi’r dull y bydd yn ei ddefnyddio yn y dyfodol mewn perthynas â rhannu gwybodaeth brisio. Yn sgil hynny, rydym yn archwilio’r hyn y bydd y newidiadau’n ei olygu i’n cwsmeriaid.   

Mae diwygiadau sylweddol i’r system ardrethi busnes ar y gweill. Bydd y rhain yn: 

  • moderneiddio’r system ardrethi busnes a dod â gweinyddiaeth ardrethi busnes yn agosach at drethi eraill 
  • cyflawni ailbrisiadau mwy rheolaidd 
  • newid sut mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio a thalwyr ardrethi yn gweithio gyda’i gilydd.  

Rhan bwysig o’r diwygiadau yw lefel uwch o dryloywder, ac felly byddwn yn rhannu mwy o dystiolaeth gyda thalwyr ardrethi i egluro sut rydym wedi cyfrifo eu gwerthoedd ardrethol. Mae hyn, yn ei dro, yn helpu i feithrin ffydd yn ein prisiadau. 

Bydd y newidiadau hyn yn digwydd fesul cam. Rydym eisoes wedi gwneud gwelliannau i’n canllawiau i gwsmeriaid. 

Yn Adroddiad Terfynol yr Adolygiad o Ardrethi Busnes, nododd y llywodraeth y byddai mwy o dryloywder yn dod ar ôl cyflwyno dyletswydd newydd ar dalwyr ardrethi, sef bod disgwyl iddynt ddarparu gwybodaeth am eiddo i Asiantaeth y Swyddfa Brisio. 

Disgwylir i’r ddyletswydd wybodaeth newydd ar dalwyr ardrethi gael ei chyflwyno ar ôl y 1af o Ebrill 2026. Bydd yn cael ei phrofi gyda niferoedd bach o gwsmeriaid fesul cam o’r pwynt hwnnw fel y gallwn wneud yn siŵr bod y system yn gweithio i bob talwr ardrethi. 

Yna bydd y ddyletswydd yn cael ei rhoi ar waith yn ffurfiol ac yn orfodol i bawb erbyn y 1af o Ebrill 2029. 

Bydd yn sicrhau bod yr wybodaeth y byddwn yn ei datgelu i dalwyr ardrethi yn fwy amserol a chyflawn. 

Bydd newidiadau i’r system Gwirio, Herio, Apelio hefyd yn cael eu cyflwyno ym mis Ebrill 2029. 

Gwrando ar adborth 

Mae’n bwysig bod adborth oddi wrth ein cwsmeriaid a’n rhanddeiliaid yn llywio unrhyw newidiadau. 

Gwnaethom gynnal ymgynghoriad y llynedd, ac rydym wedi gwneud ymchwil gyda thalwyr ardrethi ac asiantau. Mae hyn wedi rhoi ystod o safbwyntiau i ni ynghylch pa wybodaeth sy’n ddefnyddiol, a pha wybodaeth a allai fod yn fwy sensitif ac yn anaddas i’w datgelu. 

Rydym yn ymwybodol bod rhai pobl eisiau mwy o dryloywder. Ond mae angen cydbwyso hyn â phryderon pobl eraill ynghylch cyfrinachedd eu data.  

Gwnaeth talwyr ardrethi roi gwybod i ni hefyd fod yn well ganddynt wybodaeth symlach ac nad ydynt am gael eu llethu â manylion. 

Y camau y byddwn yn eu cymryd 

O 2026 byddwn yn gwella sut rydym yn rhannu’r wybodaeth bresennol am brisiad eiddo.  

Ar gyfer eiddo crynswth, bydd talwyr ardrethi sydd wedi cofrestru gyda’n system Gwirio, Herio, Apelio yn gallu gofyn am becyn gwybodaeth wedi’i deilwra. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws iddynt ddeall: 

  • sut rydym wedi prisio eu heiddo 
  • sut mae’r eiddo yn cymharu ag eiddo tebyg.  

Mae llawer o’r wybodaeth hon eisoes ar gael. Ond mae ymchwil wedi dangos bod angen i ni wella’r ffordd yr ydym yn ei chyflwyno. Mae hyn yn arbennig o wir o ran gwybodaeth am eiddo tebyg, sy’n helpu talwyr ardrethi i ystyried pa mor deg yw eu hasesiad ardrethu. 

Ar gyfer eiddo sy’n cael eu prisio gan ddefnyddio’r dull derbyniadau a gwariant neu’r dull sail contractwyr, byddwn yn rhannu gwybodaeth am eiddo’r talwr ardrethi yn unig. Ni fyddwn yn cynnwys gwybodaeth na thystiolaeth am ‘eiddo tebyg’, oherwydd y gallai hynny fod yn fasnachol sensitif neu’n sensitif mewn rhyw ffordd arall.  

Mae adborth eisoes wedi dangos i ni fod talwyr ardrethi yn debygol o ystyried bod y newidiadau hyn yn ddefnyddiol.  

Rydym hefyd yn gwybod bod angen rhagor o wybodaeth ar bobl, er mwyn iddynt ddeall yn llawn sut rydym wedi cyfrifo gwerth ardrethol eiddo.  

Yr hyn y byddwn yn ei rannu o 2029 ymlaen 

Byddwn yn darparu rhagor o dystiolaeth a gwybodaeth o ran prisio yn ystod ail gam y newidiadau hyn. Bydd hyn yn dechrau wrth gyhoeddi rhestrau ardrethu drafft 2029. 

Ar gyfer eiddo sy’n cael eu prisio gan ddefnyddio rhenti lleol, byddwn yn ehangu’r wybodaeth i gynnwys y dystiolaeth am rent yr ydym wedi dibynnu arni yn ein prisiadau.  

Ar ôl gwrando ar eich adborth, rydym hefyd yn disgwyl darparu rhagor o wybodaeth am y math o drafodion – er enghraifft, pa un o’r canlynol sydd dan sylw: 

  • gosodiad newydd 
  • adnewyddu prydles, neu  
  • adolygiad rhent.  

Byddwn yn parhau i weithio gydag asiantau er mwyn archwilio’r ffordd orau o ddarparu gwybodaeth am yr addasiadau a wnawn i dystiolaeth am rent yn ystod ein prisiadau.   

Mwy i ddod 

Rwyf wedi amlinellu uchod y camau y byddwn yn eu cymryd i ddarparu rhagor o wybodaeth brisio, ond mewn gwirionedd dim ond megis dechrau ar ein gwaith ydyn ni. 

Mae ymchwil bellach eisoes ar y gweill. Hoffem ddysgu mwy am yr hyn sy’n helpu talwyr ardrethi i ddeall eu prisiad ac unrhyw dystiolaeth am rent. Hefyd, hoffem ddysgu pa wybodaeth ychwanegol a allai helpu pobl i ddeall gwerth ardrethol eiddo yn well. 

Bydd y newidiadau hyn hefyd yn golygu bod y DU ymhlith y gwledydd hynny sy’n darparu lefel uwch o dryloywder mewn data prisio. 

Sharing and comments

Share this page

Leave a comment

We only ask for your email address so we know you're a real person

By submitting a comment you understand it may be published on this public website. Please read our privacy notice to see how the GOV.UK blogging platform handles your information.