[English] - [Cymraeg]
The Valuation Office Agency (VOA) bands every home in England and Wales for Council Tax. Your property’s band determines how much Council Tax you pay.
If you think your Council Tax band is wrong, you may be able to challenge it. In this blog, we look at the evidence you need to support a challenge.
Band challenges
There are two types of band challenges – proposals and band reviews. Which type of challenge you can submit depends on your circumstances.
You can make a proposal if you’ve been paying Council Tax on your property for less than 6 months, or if we’ve changed your band in the last 6 months.
When you make a proposal, by law we must review your band.
If you think your band is wrong and you’ve been paying Council Tax on your property for more than 6 months, you can request an informal band review.
The same legal rights do not apply, and we’ll only take your request forward if you provide strong evidence that your band is wrong.
This is usually the addresses of up to five comparable properties or sales information.
Comparable properties
A comparable property is a property that is similar to yours. To decide whether properties can be compared, we consider four main details.
Location
A comparable property should be in the same street or estate as yours, if you live in a town or city. In the countryside, they should be within 10 miles. This distance may be greater in rural areas, or if your property is unusual.
Type
Comparable properties should be the same style as yours, with similar features. Houses should always be compared with houses, and flats with flats. If your property is semi-detached, your comparable properties should be too.
Age
A property must have been built in the same time period as yours to be comparable. This means a property built before 1900 could not be compared to a new-build property.
Size
Comparable properties can be smaller or larger than your own, usually within 10%. Focus more on the actual size of properties, rather than number of bedrooms. It’s important to remember that some properties may seem much larger than yours but in the same band. This may be because of improvements (which we cannot consider until the property is sold) or other characteristics affecting the value.
Sales information
You can also use sales information as evidence to support your challenge.
The sale of your property or a similar property must have taken place between the following dates to be valid evidence:
- 1 April 1989 and 31 March 1993 (England)
- 1 April 2001 and 31 March 2005 (Wales)
Read more about using evidence from house prices.
You should avoid using data from house price calculators as evidence in your challenge. This is because the data is broad and usually not specific to particular locations.
Why you need to submit evidence
The circumstances when the VOA has to review your band are set out in law. Not everyone has a right to challenge their Council Tax band, and we are not required to look at every request we receive.
But we want customers to be in the right Council Tax band. That’s why we ask you to set out why you think your band is wrong. It helps us identify cases most likely to result in a change, so we can review any potential errors and deal with cases quicker.
To learn more about Council Tax band challenges, read our guide to challenging your Council Tax band.
We welcome your comments about this blog below but cannot discuss individual cases. Please do not share any personal information. We will not be able to publish any comments that include personal details.
Please direct all queries about individual cases to our contact form.
[English] - [Cymraeg]
Tystiolaeth i ategu eich cais i herio eich band Treth Gyngor
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn bandio pob cartref yng Nghymru a Lloegr ar gyfer Treth Gyngor. Mae band eich eiddo yn pennu faint o Dreth Gyngor rydych chi’n ei thalu.
Os ydych yn meddwl bod eich band Treth Gyngor yn anghywir, mae’n bosibl y gallwch ei herio. Yn y blog hwn, byddwn yn edrych ar y dystiolaeth sydd ei hangen arnoch i ategu her.
Heriau Band
Mae dau fath o her band – cynigion ac adolygiadau band. Mae pa fath o her y gallwch ei gyflwyno yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Gallwch wneud cynnig os ydych wedi bod yn talu Treth Gyngor ar eich eiddo am lai na 6 mis, neu os ydym wedi newid eich band yn ystod y 6 mis diwethaf.
Pan fyddwch yn gwneud cynnig, mae’n rhaid i ni adolygu’ch band yn ôl y gyfraith.
Os ydych yn meddwl bod eich band yn anghywir a’ch bod wedi bod yn talu Treth Gyngor ar eich eiddo am fwy na 6 mis, gallwch ofyn am adolygiad band anffurfiol.
Yn yr achos hwn, nid yw’r un hawliau cyfreithiol yn berthnasol, a byddwn ond yn mynd â’ch cais ymlaen os byddwch chi’n darparu tystiolaeth gadarn bod eich band yn anghywir.
Fel arfer, gwybodaeth am werthiant neu gyfeiriadau hyd at bum eiddo tebyg fydd y dystiolaeth hon.
Eiddo cymharol
Eiddo y gellir ei gymharu â’ch eiddo chi yw eiddo cymharol. Rydym yn ystyried pedwar prif faes wrth benderfynu a ellir cymharu eiddo.
Lleoliad
Dylai eiddo cymharol fod yn yr un stryd neu ystâd â’ch eiddo chi, os ydych yn byw mewn tref neu ddinas. Yng nghefn gwlad, dylen nhw fod o fewn 10 milltir i’w gilydd. Efallai bydd y pellter hwn yn fwy mewn ardaloedd mwy gwledig, neu os yw’ch eiddo yn anarferol.
Math
Dylai eiddo cymharol fod yr un arddull â’ch eiddo chi, gyda nodweddion tebyg. Dylai tai bob amser gael eu cymharu â thai, a fflatiau â fflatiau. Os yw’ch eiddo yn dŷ pâr, yna dylai’r eiddo sy’n cael ei gymharu ag ef fod yn dŷ pâr hefyd.
Oedran
Rhaid i eiddo fod wedi’i adeiladu yn yr un cyfnod er mwyn iddo allu cael ei gymharu. Ni ellir cymharu eiddo a gafodd ei adeiladu cyn 1900 gydag eiddo newydd, felly.
Maint
Gall eiddo cymharol fod yn llai neu’n fwy na’ch eiddo chi, fel arfer o fewn 10%. Mae’r ffocws ar faint yr eiddo, yn hytrach nag ar nifer yr ystafelloedd gwely. Mae’n bwysig cofio y gall rhai eiddo sydd yr un band â’ch eiddo chi ymddangos yn llawer mwy na’ch eiddo chi. Gallai hyn fod oherwydd gwelliannau i’r eiddo (na allwn eu hystyried nes bod yr eiddo’n cael ei werthu) neu oherwydd nodweddion eraill sy’n effeithio ar y gwerth.
Gwybodaeth werthu
Gallwch hefyd ddefnyddio gwybodaeth werthu fel tystiolaeth i ategu eich her.
Er mwyn cael ei ystyried yn dystiolaeth ddilys, mae’n rhaid i’ch eiddo chi neu’r eiddo tebyg fod wedi’i werthu rhwng y dyddiadau canlynol:
- 1 Ebrill 2001 a 31 Mawrth 2005 (Cymru)
- 1 Ebrill 1989 a 31 Mawrth 1993 (Lloegr)
Darllenwch fwy am ddefnyddio tystiolaeth o brisiau tai.
Dylech osgoi defnyddio data o gyfrifianellau prisiau tai fel tystiolaeth yn eich her. Mae’r data a geir drwy gyfrifianellau o’r fath yn eang ac nid yw wedi’u teilwra i leoliadau arbennig.
Pam y mae angen i chi gyflwyno tystiolaeth
Mae’r amgylchiadau pan fydd yn rhaid i’r VOA adolygu eich band wedi’u nodi’n gyfreithiol. Nid oes gan bawb hawl i herio eu band Treth Gyngor, ac nid oes rhaid i ni edrych ar bob cais a gawn.
Er hyn, rydym am wneud yn siŵr bod cwsmeriaid yn y band Treth Gyngor cywir. Rydyn ni felly’n gofyn i chi nodi’n glir eich rheswm dros feddwl bod eich band yn anghywir. Bydd hyn yn ein helpu i adnabod yr achosion sy’n fwyaf tebygol o arwain at newid, fel y gallwn adolygu unrhyw wallau posibl a delio ag achosion yn gyflymach.
I ddysgu rhagor am heriau band Treth Gyngor, darllenwch ein canllaw: herio’ch band Treth Gyngor.