Skip to main content

https://valuationoffice.blog.gov.uk/2024/02/21/council-tax-properties-in-disrepair/

Council Tax band deletions: properties in disrepair

Posted by: , Posted on: - Categories: Council Tax

[English] - [Cymraeg]

The Valuation Office Agency (VOA) bands homes for Council Tax. The Council Tax band of any property is based on its open market value – the price it could have sold for – at a fixed point in time. Read more about how properties are valued for Council Tax.

In limited circumstances, we may delete a property’s Council Tax band.

This happens when the property is truly derelict or undergoing major renovation.

In this blog, we explain what it means for a property to be truly derelict, the evidence we need to delete the property’s band, and what happens once the band has been deleted.

Read our next blog for more information on renovations.

What is a truly derelict property?

There is one main question we ask when deciding whether a property is truly derelict.

Is the property capable of a normal level of repair without changing its character?

Character covers things like the size of the property, its features, the materials it is made from and its relationship to the overall plot.

Our decision is based on the physical state of the property. It is not based on how much the property would cost to repair, or whether repairs will actually be done.

A truly derelict property will be in severe disrepair. The property would have deteriorated so much, usually over a long period of time, that it cannot be lived in without major reconstruction work.

The work needed to make a truly derelict property habitable will be so significant that the renovated property would bear little, if any similarity with the original.

Features of a derelict property may include:

  • many roof tiles or slates missing, leading to extensive water damage in multiple rooms
  • collapsed ceilings
  • damaged floor joists
  • extensive wet or dry rot that has spread to joists, staircases or other structural elements
  • missing window frames/external doors
  • vegetation growing inside
  • stripped wiring and pipework
  • other structural problems

A property will normally need to display many of the listed features for us to delete its band.

Properties in poor repair

If a property is capable of a normal level of repair without changing its character, the property is not truly derelict. Instead, it is in poor repair.

A property in poor repair needs less work to make it habitable. Unlike a truly derelict property, a property in poor repair does not need significant structural reconstruction.

For Council Tax purposes, a normal level of repair includes:

  • internal/external redecoration
  • localised plaster/ceiling repairs
  • renewal of kitchen and bathroom fittings
  • replacement of electric wiring
  • repair of localised wet rot
  • minor roof repairs due to slipped/missing tiles
  • replacement windows
  • the treatment of damp patches

In these circumstances, we cannot delete the Council Tax band as the repairs would be unlikely to change the character of the property.

Evidence requirements

When you make a proposal for us to delete your property’s Council Tax band, we will ask you for evidence to help us make a decision.

For properties in disrepair, this evidence could be:

  • the date the property was last lived in and when it became uninhabitable (it is important to note we are unable to delete a property’s Council Tax band just because it is empty)
  • details or photos that show failings in the property’s structure or services, such as power or drainage
  • labelled and dated photos of both the inside and outside of the property, including the roof
  • details of work required to make the property habitable, including any structural work
  • details of planning applications, surveys, and/or structural reports

What happens next?

If we delete your property’s Council Tax band, your property will be removed from the Council Tax list. You will not pay any Council Tax on the property until we are notified by the local council that work has been completed.

Once work has been completed, your property will be banded as a new property.

When valuing the property, we will consider all improvements made. This means your Council Tax band may go up.

The date you will be liable to pay Council Tax will be the date works were completed.

You can find more information about challenging your Council Tax band on GOV.UK.

 
[English] - [Cymraeg]

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn bandio cartrefi ar gyfer Treth Gyngor. Mae band Treth Gyngor unrhyw eiddo yn seiliedig ar ei werth ar y farchnad agored – y pris y gallai fod wedi gwerthu amdano – ar bwynt penodol mewn amser. Darllenwch fwy am sut y caiff eiddo eu prisio ar gyfer Treth Gyngor.

Mewn rhai amgylchiadau prin, gallwn ddileu band Treth Gyngor eiddo.

Mae hyn yn digwydd pan fo'r eiddo'n adfail gwirioneddol neu'n cael ei adnewyddu'n sylweddol.

Yn y blog hwn, rydym yn esbonio beth mae'n ei olygu i eiddo fod yn adfail gwirioneddol, y dystiolaeth sydd ei hangen arnom i ddileu band yr eiddo, a beth sy'n digwydd ar ôl i'r band gael ei ddileu.

Darllenwch ein blog nesaf am ragor o wybodaeth am adnewyddu.

Beth yw eiddo gwirioneddol adfeiliedig?

Mae un prif gwestiwn yr ydym yn ei ofyn wrth benderfynu a yw eiddo yn adfail mewn gwirionedd.

A yw'n bosibl i’r eiddo gael ei atgyweirio’n rhesymol heb newid ei gymeriad?

Mae cymeriad yn cynnwys pethau fel maint yr eiddo, ei nodweddion, y deunyddiau ddefnyddiwyd i’w adeiladu a'i berthynas â'r plot cyffredinol.

Mae ein penderfyniad yn seiliedig ar gyflwr ffisegol yr eiddo. Nid yw’n seiliedig ar faint y byddai’r eiddo’n ei gostio i’w atgyweirio, nac a fydd atgyweiriadau’n cael eu gwneud mewn gwirionedd.

Bydd eiddo gwirioneddol adfeiliedig mewn cyflwr difrifol. Byddai'r eiddo wedi dirywio cymaint, fel arfer dros gyfnod hir o amser, fel na ellir byw ynddo heb waith ailadeiladu mawr.

Bydd y gwaith sydd ei angen i wneud eiddo adfeiliedig yn le y gellir byw ynddo mor sylweddol fel y byddai'r eiddo a adnewyddwyd yn annhebyg iawn, os yn debyg o gwbl, i'r gwreiddiol.

Gall nodweddion eiddo adfeiliedig gynnwys:

  • llawer o deils to neu lechi ar goll, gan arwain at ddifrod dŵr helaeth mewn ystafelloedd lluosog
  • nenfydau wedi cwympo
  • distiau llawr wedi'u difrodi
  • pydredd gwlyb neu sych helaeth sydd wedi lledaenu i drawstiau, grisiau neu elfennau strwythurol eraill
  • fframiau ffenestri/drysau allanol ar goll
  • llystyfiant yn tyfu y tu mewn
  • gwifrau a phibellau wedi'u stripio
  • problemau strwythurol eraill

Fel arfer bydd angen i eiddo arddangos llawer o'r nodweddion a restrir er mwyn i ni ddileu ei fand.

Eiddo mewn cyflwr gwael

Os yw eiddo yn gallu cael ei atgyweirio ar lefel arferol heb newid ei gymeriad, nid yw'r eiddo'n wirioneddol adfeiliedig. Yn hytrach, mae mewn cyflwr gwael.

Mae angen llai o waith ar eiddo mewn cyflwr gwael i'w wneud yn eiddo y gellir byw ynddo. Yn wahanol i eiddo gwirioneddol adfeiliedig, nid oes angen ailadeiladu strwythurol sylweddol ar eiddo mewn cyflwr gwael.

At ddibenion Treth Gyngor, mae lefel atgyweirio arferol yn cynnwys:

  • ailaddurno mewnol/allanol
  • atgyweiriadau plastr/nenfwd lleol
  • adnewyddu gosodiadau cegin ac ystafell ymolchi
  • ailosod gwifrau trydan
  • atgyweirio pydredd gwlyb cyfyngedig
  • mân atgyweiriadau to oherwydd teils wedi llithro/ar goll
  • ffenestri newydd
  • trin ardaloedd llaith

Yn yr amgylchiadau hyn, ni allwn ddileu band Treth Gyngor gan y byddai'r gwaith atgyweirio yn annhebygol o newid cymeriad yr eiddo.

Gofynion tystiolaeth

Pan fyddwch yn gwneud cynnig i ni ddileu band Treth Gyngor eich eiddo, byddwn yn gofyn i chi am dystiolaeth i’n helpu i wneud penderfyniad.

Ar gyfer eiddo sydd mewn cyflwr gwael, gallai’r dystiolaeth hon fod:

  • y dyddiad y bu rhywun yn byw yn yr eiddo ddiwethaf a phryd y daeth yn anghyfannedd (mae’n bwysig nodi na allwn ddileu band Treth Gyngor eiddo oherwydd ei fod yn wag)
  • manylion neu luniau sy’n dangos methiannau yn strwythur neu wasanaethau’r eiddo, megis pŵer neu ddraeniad
  • lluniau wedi'u labelu a'u dyddio o'r tu mewn a'r tu allan i'r eiddo, gan gynnwys y to
  • manylion y gwaith sydd ei angen i wneud yr eiddo yn le y gellir byw ynddo, gan gynnwys unrhyw waith strwythurol
  • manylion ceisiadau cynllunio, arolygon, a/neu adroddiadau strwythurol

Beth sy'n digwydd nesaf?

Os byddwn yn dileu band Treth Gyngor eich eiddo, bydd eich eiddo yn cael ei dynnu oddi ar restr Treth Gyngor. Ni fyddwch yn talu Treth Gyngor ar yr eiddo nes i ni gael gwybod gan y cyngor lleol bod y gwaith wedi’i gwblhau.

Unwaith y bydd y gwaith wedi'i gwblhau, caiff eich eiddo ei fandio fel eiddo newydd.

Wrth brisio'r eiddo, byddwn yn ystyried yr holl welliannau a wnaed. Mae hyn yn golygu y gall eich band Treth Gyngor godi.

Y dyddiad y byddwch yn atebol i dalu Treth Gyngor fydd y dyddiad y cwblhawyd y gwaith.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am herio eich band Treth y Cyngor ar GOV.UK.

We welcome your comments about this blog below but cannot discuss individual cases. Please do not share any personal information. We will not be able to publish any comments that include personal details.

Please direct all queries about individual cases to our contact form.

Sharing and comments

Share this page

2 comments

  1. Comment by David Parsons posted on

    Commercial property in need of demolition to rebuild collapse of floor beams rot on stairs and other areas mostly incinerated by fire rot on beams
    Icannot fin any thing relating to commercial property